Arwyddocâd Hanesyddol

Dechreuodd y digwyddiadau arwyddocaol ar Chwefror 22ain 1797.

Y Stori

Mae’r stori’n dechrau pan ddaeth llongau Ffrengig i Abergwaun, dan arweiniad y Cyrnol William Tate.

Roedd y rhan fwyaf o’r milwyr Ffrengig wedi’u gwisgo mewn gwisgoedd Prydeinig wedi’u lliwio’n las tywyll. Glaniodd cwmni o grenadwyr yng Ngharreg Wastad a meddiannu Fferm Trehowel, a ddaeth yn bencadlys i Tate.

Pan aeth un o’r llongau Ffrengig i mewn i Fae Abergwaun, codwyd ofn ar y trigolion a rhuthrodd un o “Wirfoddolwyr Abergwaun” i Blasty Tregwynt i rybuddio’r Is-gyrnol Thomas Knox a oedd yn bwyta yno. Ar y dechrau, ni sylwodd fawr ar y peth, ond wrth i ddifrifoldeb y sefyllfa wawrio arno, cyfarwyddodd wirfoddolwyr i anelu at y Gaer. Cychwynnodd yr Arglwydd Cawdor o Hwlffordd i atgyfnerthu Knox.

Knox meets his volunteers

Wedi glanio, symudodd y Ffrancwyr ddwy filltir arall i mewn i’r tir a meddiannu dau safle amddiffynnol cryf yng Ngarnwnda a Garngelli.

Hyd yn hyn, roedd popeth wedi mynd yn dda i Tate. Oherwydd prinder milwyr, gadawodd Knox pobol Abergwaun i amddiffyn eu hunain!

Cyfarfu Knox a’i filwyr â llu atgyfnerthol yn Nhrefgarne, ac arweiniodd yr Arglwydd Cawdor pawb yn ôl tuag at Abergwaun. Erbyn hyn roedd ffawd Tate wedi newid. Aeth llawer o’i bartïon chwilota i ysbeilio ffermydd lleol ac Eglwys Llanwnda. Roedd gorchmynion o Ffrainc wedi cyfarwyddo llongau Castagnier i hwylio i ffwrdd gan adael y milwyr wedi’u hynysu, heb unrhyw ffordd o ddianc ac yn fwyfwy digalon.

French troops looting local farms.

Yn y cyfamser, roedd Milwyr Prydain yn ymgynnull yn Abergwaun lle’r oedd y swyddogion wedi’u lleoli dros nos yn yr hyn a elwir bellach yn Dafarn y Dderwen Frenhinol. Dywedir bod yr arwres leol, Jemima Nicholas, wedi cipio 12 o filwyr ar ei phen ei hun a’u gosod dan glo yn Eglwys y Santes Fair.

Y noson honno, cyrhaeddodd dau gynrychiolydd o Ffrainc y Dderwen Frenhinol i drafod ildiad amodol. Mynnodd Cawdor fod ganddo ddigon o filwyr i hawlio ildio diamod. Doedd Tate ddim yn sylweddoli mai twyll oedd hyn. Y bore canlynol roedd lluoedd Prydain wedi’u trefnu ar gyfer brwydr, a’u hatgyfnerthu gan gannoedd o sifiliaid yn aros am ymateb Tate. Derbyniodd Tate y telerau ac yn y pen draw, gyda drymiau’n taro, gorymdeithiodd y Ffrancwyr i lawr i Draeth Wdig, lle gwnaethon nhw bentyrru eu harfau.

Jemima Nicholas captures 12 French soldiers.

Y Myth

Er mai’r tapestri yw seren y sioe, mae llawer mwy i’w weld yn yr oriel a’r ystafell glyweledol gyfagos. Mae sawl cas arddangos, gydag amrywiol arteffactau. Mae tystiolaeth gref bod y Ffrancwyr wedi cael eu twyllo gan ymddangosiad nifer fawr o fenywod y gymdogaeth yn gwisgo’r wisg draddodiadol – siolau cochion a hetiau du, a oedd o bellter yn debyg i wisgoedd troedfilwyr. Dywedir eu bod yn gorymdeithio o amgylch bryn amlwg yn Abergwaun – Y Bigni – sydd bellach wedi’i orchuddio â thai.

Roedd trigolion o ardal eang yn heidio tuag at Abergwaun i ymosod ar y gelyn, tra bod y crydd lleol, Jemima Nicholas, wedi cipio dwsin o filwyr Ffrengig digalon a’u caethiwo yn Eglwys y Santes Fair.

Knox meeting with Lord Cawdor

Profwch Hanes yn Uniongyrchol

Swyddfa Gofrestredig:
Ymddiriedolaeth Canolfan Ymosodiad Abergwaun Cyf.
11, Heol Y Felin, Wdig, Sir Benfro SA64 0AR
Ebost: enquiries@lastinvasiontapestry.cymru
Ffon 07599239881
Rhif Cofrestru Cwmni 03621571. Rhif Elusen 1071923

 
Quality Assured logo
Cultural Services logo