Oriel Tapestri

Y tapestri, ei ddehongliad ac arteffactau’r cyfnod.

Yr Oriel

Comisiynwyd Tapestri Glaniad y Ffrancod fel gwaddol parhaol o ddathliadau Daucanmlwyddiant y Glaniad ym 1997. Mae’n adrodd stori unigryw a diddorol am yr ymosodiad olaf ar dir mawr Prydain, a chymerodd bron i 78 o bobl leol bedair blynedd i’w gwblhau.

Mae’n debyg o ran ffurf a siâp i dapestri Bayeux ond yn llai na hanner ei hyd – 100 troedfedd (30.5 metr) o hyd. Wedi’i leoli mewn Oriel bwrpasol yn Llyfrgell Abergwaun, mae arddangosfa Tapestri Glaniad y Ffrancod hefyd yn cynnwys arteffactau a ffilmiau, lle gallwch ddarganfod mwy am ddigwyddiadau’r daucanmlwyddiant, yr ymosodiad a chreu y Tapestri.

Er mai’r tapestri yw seren y sioe, mae llawer mwy i’w weld yn yr Oriel a’r ystafell Glyweledol gyfagos. Mae sawl cas arddangos, gyda llawer o arteffactau gwahanol, rhai yn dyddio’n ôl i’r 18fed ganrif pan ddigwyddodd yr ymosodiad.

Yr Ystafell Glyweledol

Mae ystafell glyweledol ar waelod oriel y tapestri sy’n cynnwys sawl llun diddorol a map o’r goresgyniad. Mae yna hefyd fideo o wneud y tapestri. Gellir defnyddio’r ystafell glyweledol hefyd fel ystafell ddarlith neu ystafell ddosbarth, mae lle i hyd at 32 o bobl. Mae gan yr ystafell fwrdd gwyn rhyngweithiol, wifi, fideo a theledu.

Mae Llyfrgell Abergwaun yn cymryd archebion ar gyfer yr Ystafell Glyweledol. Ffoniwch nhw ar 01437 776638

Audio Visual room map
Detail of document from Queen Victoria
Traditional Welsh costume of 1779.
Traditional Welsh costume of 1779.

Archwiliwch y Tapestri a'r Arteffactau

Oriel Delweddau

Lead soldiers in the Gallery
Traditional Welsh costume of 1779.
Commemorative medallion
Traditional Welsh costume of 1779.
Colourful threads used in making the Tapestry.
Glass decanter, late 18th century.
Western Mail article from 1897

Profwch Hanes yn Uniongyrchol

Swyddfa Gofrestredig:
Ymddiriedolaeth Canolfan Ymosodiad Abergwaun Cyf.
11, Heol Y Felin, Wdig, Sir Benfro SA64 0AR
Ebost: enquiries@lastinvasiontapestry.cymru
Ffon 07599239881
Rhif Cofrestru Cwmni 03621571. Rhif Elusen 1071923

 
Quality Assured logo
Cultural Services logo